|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Merlod Mynydd Cymreig
Dipyn o hanes y Merlod
Mae’r merlod mynyddoedd Cymru yn frid cryf iawn ac yn mynd yn ol at amser y Celtiaid.
Mae nhw'n addas i’r tywydd eithaf maent yn gwynebu ar mynyddoedd Eryri. Yn oes y Tiwdoriaid
tua 1509 gorchmynodd Brenin Hari'r VIII i ddinistrio’r merlod am y rheswm nad oeddynt yn gallu
cludo marchog a’i arfogaeth. Wrth lwc methodd a llwyddo. Ar y llaw arall 'roedd y Rhufeinwyr
yn edmygu’r merlod am eu cryfder a'u 'stwythder. Defnyddiwyd hwy tra yng Nghymru a gyrrwyd
rhai yn ol i Rufain i weithio ar y tir.
Yn y 19ed ganrif defnyddiwyd y merlod i gludo certi yn y pyllau glo. Ers cau'r pyllau nid oes
gwaith iddynt, felly mae nhw’n crwydro'r Carneddau yn pori. 'Roeddynt yn crwydro mewn gyr o
tua 30 o gesig ac un staliwn, ond 'rwan mae’r stalwyni yn cael eu cadw ar wahan. Yn 2005 'roedd
rhaid i’r merlod gael trwydded teithio a nod. Buasai hyn wedi bod yn fyrdwn ariannol ar y ffermwyr
oedd yn edrych ar eu hol, ond wrth lwc daeth CCW a Pharc Cenedlaethol Eryri ag arian o’u cronfa er
mwyn iddynt gael pori’n ddiogel ar y Carneddau.
Mae’r merlod yn rhannu’r Carneddau gyda tua 8000 o ddefaid, felly mae’r 22 o’r ffermwyr yn dod a’r
defaid i bori’r tir isel yn y gaeaf, a mynd a nhw’n ol yn nhymor yr haf. Mae’r tir uchel yn cael
amser i adennill a’r tir isel o’r mynydd yn cadw’n brin er mwyn cefnogi anifeiliaid gwyllt fel y Fran
Goesgoch, Hebog Tramor a’r Cudyll Bach. Mae’r merlod yn cael eu gofalu trwy’r flwyddyn tra’n pori,
gan aelodau’r gymdeithas, ac maent yn cael eu hel at eu gilydd unwaith y flwyddyn i’w harchwilio.